|
This
page is also available in English - Click
Here
Gwasanaethau
a
Gwybodaeth Gyffredinol
Ffoniwch
ni am gyngor cyfreithiol cyfrinachol a chynrychiolaeth ar
0151 649 8700
or Sharon
Lovell on
07747 461017
Cyflwyniad
Elusen yn darparu gwasanaethau cymdeithasolgyfreithiol yn y Deyrnas Unedig
yw'r Gwasanaethau Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol (NYAS). Mae'n cynnig
gwybodaeth, cyngor, eiriolaeth a chynrychiolaeth gyfreithiol i blant a
phobl ifanc 0-25 oed, trwy rwydwaith o dros 150 o eiriolwyr. Mae NYAS
hefyd yn Wasanaeth Cyfreithiol Cymunedol.
Ethos
y Gwasanaeth
Mae NYAS yn ymroi i weithio tuag at weithredu Confensiwn y Cenhedloedd
Unedig ar Hawliau'r Plentyn, ac yn arbennig Erthygl 12 sy'n ymwneud â
hawl pob person ifanc i ymgynghoriad ynghylch pob mater sy'n effeithio
arnynt. Mae NYAS yn anelu i ddarparu a datblygu ei wasanaethau trwy gyfranogiad
pobl ifanc sy'n ymwneud â'r sefydliad ar bob lefel.
I
bwy ydym ni'n cynnig gwasanaethau?
Mae NYAS yn cynnig gwybodaeth annibynnol a chyfrinachol, cyngor, eiriolaeth
a chefnogaeth i bobl ifanc sydd am fynegi eu dymuniadau a'u teimladau
mewn achosion gweinyddol neu gyfreithiol, neu mewn unrhyw amgylchiadau
eraill, pan wneir penderfyniadau ynglyn â'u bywydau.
Mae NYAS yn rhoi plant a
phobl ifanc yn gyntaf ac yn cynnig help i blant:-
- Mewn angen neu anobaith
- Mewn trafferth
- Mewn gofal neu'n gadael
gofal
- Sy'n ddigartref
- Â phroblemau yn yr ysgol
- Â'u rhieni wedi gwahanu
neu'n ysgaru
- Sydd â neb i wrando arnyn
nhw
Mae NYAS yn cynnig gwasanaeth
lle caiff pobl ifanc gyfle i ddefnyddio gwybodaeth a phrofiad ein heiriolwyr
a'n cyfreithwyr i oleuo eu proses o wneud penderfyniadau.
Sut
i Gael Gwybodaeth , Cyngor, Eiriolaeth neu Gynrychiolaeth Gyfreithiol
Mae pob gwasanaeth a ddarperir gan NYAS yn annibynnol a chyfrinachol.
Mae gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc, gan gynnwys
cyngor a chynrychiolaeth gyfreithiol ar gael trwy gysylltu â ni ar:
|
Llinell
gymorth i bobl ifanc
0800 61 61 01
Llun - Gwener 8.00am - 8.00pm
Sadwrn 10.00am - 4.00pm
Gallwch adael neges ar unrhyw adeg arall a byddwn yn ymateb yn gyflym
Rhif ffôn y swyddfa:
0151 649 8700
Neu ewch i'n gwefan:
www.nyas.net
|
Bydd ein tîm derbyn yn delio
â phob cais am help ac yn cysylltu eiriolwr â'r achos os yn berthnasol.
Mae'r gwasanaethau'n cynnwys:
Gwybodaeth
Gyfreithiol, Cyngor a Chynrychiolaeth
Mae tîm cyfreithiol mewnol NYAS yn darparu gwasanaethau cyfreithiol i
bobl ifanc.
Eiriolaeth ar sail Materion
Penodol
Cysylltir eiriolwyr penodol mewn ymateb i geisiadau penodol am gyngor,
neu eiriolaeth ar gyfer gwaith un-wrth-un gyda phlentyn neu berson ifanc.
Eiriolaeth mewn Unedau Preswyl
Mae eiriolwyr yn ymweld ag unedau preswyl yn rheolaidd i gyfarfod a rhyngweithio
gyda phobl ifanc a gwrando ar unrhyw bryderon a siarad â nhw yn uniongyrchol.
Cymorth gan Weithwyr Achos
M ae NYAS yn cynnig gweithwyr achos i ymgymryd ag adroddiadau gwaith cymdeithasol
annibynnol ar gyfer pobl ifanc sy'n destun anghydfod ynglyn â'u cartref
swyddogol neu hawliau cyswllt. Gall gweithwyr achos weithio'n annibynnol
neu gyda chyfreithiwr o dîm cyfreithiol NYAS.
Personau Annibynnol
Mae personau annibynnol yn darparu gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i
bobl ifanc mewn Canolfannau Hyfforddi Diogel.
Ymwelwyr Annibynnol
Mae NYAS yn darparu ymwelwyr annibynnol i ymweld, i gynghori ac i fod
yn gyfaill i bobl ifanc sy'n cael gofal gan yr awdurdod lleol ac sydd
heb lawer neu ddim cysylltiad gyda'u teuluoedd.
Fforwm Pobl Ifanc
Mae'r fforwm yn gyfrwng i ymgynghori gyda phobl ifanc ac yn ffordd iddyn
nhw allu mynegi eu barn ar faterion lleol a chenedlaethol.
Digwyddiadau i Blant
Ymgynghoriad a gwybodaeth sy'n galluogi plant i ddweud am eu profiadau
ac i ddysgu am y gwasanaeth.
Hyfforddiant
ac Ymgynghoriad
Mae hyfforddi a datblygu staff yn chwarae rhan bwysig iawn o ran cyflwyno
gwasanaethau o ansawdd uchel i blant a phobl ifanc. Mae NYAS wedi'i gofrestru
gyda Chymdeithas y Gyfraith a'r Rhwydwaith Coleg Agored i ddarparu cyrsiau
achrededig sy'n cynnwys:
- Cyflwyniad i Eiriolaeth
ar Ran Plant a Phobl Ifanc
- Cwynion a Chynrychiolaeth
- Hyrwyddo Hawliau Plant
mewn Gofal Preswyl
- Fframwaith Cyfreithiol
Eiriolaeth
- Eiriolaeth gyda Phlant
ag Anabledd
- Hyfforddiant pwrpasol a
gweithdai ar gael wrth wneud cais.
- Am ragor o fanylion cysylltwch
â: training@nyas.net
Clwb
Ieuenctid Ar-lein
www.onlineyouthclub.org
Gwefan ryngweithiol ar gyfer pobl ifanc, i'w hannog i fynegi barn a defnyddio
stafell sgwrsio NYAS yn ddiogel.
Gwybodaeth
Arall
Mae rhagor o daflenni NYAS ar gael, sef Gwasanaethau Cyfreithiol NYAS,
Cyfranogiad Personau Ifanc NYAS, Hyfforddiant NYAS a Gweithdrefn Gwynion
NYAS.
Gwasanaeth
Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol
Egerton House, Tower Road,
Birkenhead, Wirral, CH41 1FN
Rhif ffôn 0151 649 8700
E-bost help@nyas.net
Gwefan www.nyas.net
RHIF FFÔN
AM DDIM I BOBL IFANC
0800 616 101
|